Mae learning4living yn berchen i Carers UK, and yn cael ei redeg ganddo.

Mae Carers UK wedi ymroi i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol ac i fod yn dryloyw ynglŷn â’r hyn rydym yn ei wneud â hi, ni waeth sut rydych yn rhyngweithio â ni. Mae hynny boed yn ymuno fel aelod, yn creu cyfrif ar un o’r platfformau ar-lein rydym yn berchen arnynt ac yn eu rhedeg, yn prynu ein cynnyrch a'n gwasanaethau, yn tanysgrifio i'n cylchlythyr neu eisiau dysgu mwy am ein gwaith. Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn dweud wrthych beth i'w ddisgwyl pan fydd Carers UK yn casglu gwybodaeth bersonol ar y platfform Dysgu ar gyfer Byw (https://learning4living.org). Rydym wedi ymroi i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol yn unol â'n cyfrifoldebau. Mae'n ofynnol i ni roi'r wybodaeth yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn i chi, yn unol â chyfraith gymwys, sy'n cynnwys:

Ni fyddwn yn gwneud unrhyw beth gyda'ch gwybodaeth na fyddech yn ei ddisgwyl yn rhesymol.

Mae'r gwaith o brosesu eich gwybodaeth bersonol yn cael ei wneud gan, neu ar ran, Carers UK, sydd wedi'i gofrestru fel elusen yng Nghymru a Lloegr (246329), yr Alban (SC039307); a Carers UK Trading Ltd, sydd wedi cofrestru fel cwmni yng Nghymru a Lloegr (06034910) (gyda’i gilydd – ‘Carers UK Group ').

Mae'r hysbysiad hwn, ynghyd â thelerau ac amodau ein gwefan a'n polisi cwcis, yn dweud wrthych sut rydym yn casglu, defnyddio a diogelu eich gwybodaeth bersonol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein Hysbysiad Preifatrwydd, cysylltwch yn y ffyrdd canlynol:

E-bost [email protected]

Ffôn: 020 7378 4945 neu drwy’r

Post: Cynghorydd Diogelu Data, Carers UK, 20 Great Dover Street, Llundain SE1 4LX

Sut a pryd rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch chi

Pan rydych chi’n rhoi gwybodaeth yn uniongyrchol i ni

Byddwn yn casglu ac yn storio gwybodaeth amdanoch chi pan fyddwch chi’n rhyngweithio gyda ni. Er enghraifft, gallai hyn fod pan fyddwch chi'n:

cofrestru ar gyfer cyfrif defnyddiwr Dysgu ar gyfer Byw newydd

llenwi gwybodaeth ar weithgaredd ar gyfer modiwl e-ddysgu

cysylltu â ni i dderbyn cymorth technegol, i roi adborth i ni, neu i wneud cwyn

Pan fyddwch chi’n rhoi gwybodaeth yn anuniongyrchol i ni

Efallai y byddwn yn cael gwybodaeth am eich ymweliad â'n gwefan, er enghraifft y tudalennau rydych chi’n ymweld â nhw a sut rydych chi’n llywio'r wefan, drwy ddefnyddio cwcis. Ewch i'n polisi cwcis i gael gwybodaeth am hyn.

Pa wybodaeth y byddwn yn ei chasglu

Pan fyddwch yn ymgysylltu â ni, efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth amdanoch chi (y cyfeirir ati yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn fel 'gwybodaeth bersonol '). Os ydych yn cofrestru ar gyfer cyfrif defnyddiwr Dysgu ar gyfer Byw newydd, byddwn yn gofyn i chi ddarparu eich cyfeiriad e-bost. Os byddwch yn cysylltu â ni dros y ffôn, drwy'r post, mewn person neu ar-lein er mwyn derbyn mwy o wybodaeth am y gwasanaeth, neu i gyrchu cymorth technegol, rhoi adborth neu i wneud cwyn, gall yr wybodaeth a gasglwn gynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, a gwybodaeth arall sy'n ymwneud â chi'n bersonol y gallech chi ddewis ei darparu i ni.

Mae cyfraith diogelu data yn cydnabod bod rhai mathau o wybodaeth bersonol yn fwy sensitif. Mae hyn yn cael ei alw’n wybodaeth bersonol 'sensitif ' / ‘categori arbennig ', ac mae'n cynnwys gwybodaeth sy'n datgelu hil neu darddiad ethnig, credoau crefyddol neu athronyddol a barn wleidyddol, aelodaeth o Undeb Llafur, data genetig neu fiometreg, gwybodaeth sy’n ymwneud ag iechyd neu ddata sy'n ymwneud â bywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol person.

Nid ydym fel arfer yn casglu gwybodaeth sensitif ond os byddwn yn gwneud hyn, dim ond pan fydd angen, a dim ond gyda'ch caniatâd penodol chi, y cesglir hyn. Bydd rhybuddion clir yn cael eu hanfon atoch chi ar yr adeg pan fyddwn yn casglu'r wybodaeth hon, yn nodi pa wybodaeth sydd ei hangen, a pham.

Os ydych chi’n 16 oed neu’n iau

Os ydych chi’n 16 oed neu'n iau, mae’n rhaid i chi gael caniatâd eich rhiant/gwarcheidwad cyn darparu unrhyw wybodaeth bersonol i ni.

Sut a pam rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol am y rhesymau canlynol

Er mwyn darparu mynediad i blatfform Dysgu ar gyfer Byw: Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i'ch galluogi i gael mynediad at ein gwefan, i bersonoli eich profiad, ac i’w wella a'i ddatblygu ymhellach. Yn benodol, byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol (e-bost) i hwyluso creu cyfrif defnyddiwr - bydd hyn yn caniatáu i chi fewngofnodi i'r platfform a chyrchu adnoddau. Efallai y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol hefyd i roi diweddariadau pwysig i chi am wasanaethau (nid negeseuon e-byst marchnata yw'r rhain).

Ymateb i gais: Os ydych chi’n cysylltu â ni gydag ymholiad, efallai y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i ymateb i chi.

Monitro a Gwerthuso: Efallai y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth er mwyn gwella'r ffordd y darperir ein gwasanaeth ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

Gweinyddu: Efallai y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i gofnodi a delio â chwyn, i gofnodi cais i beidio â derbyn rhagor o wybodaeth marchnata, i gofnodi'r hyn mae ein gwirfoddolwyr wedi'i wneud drosom ni, ac at ddibenion cadw cofnodion mewnol hanfodol eraill.

Gyda phwy rydym yn rhannu eich gwybodaeth?

Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth at y dibenion y'i cafwyd yn unig. Ni fyddwn, o dan unrhyw amgylchiadau, yn gwerthu nac yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gydag unrhyw drydydd parti at eu dibenion eu hunain, ac ni fyddwch yn derbyn deunyddiau marchnata gan unrhyw gwmnïau, elusennau na sefydliadau eraill yn sgil rhoi eich manylion i ni.

Byddwn yn rhannu eich data ar gyfer y dibenion canlynol yn unig:

Sut rydym yn diogelu eich gwybodaeth

Rydym yn defnyddio dulliau diogelu sefydliadol technegol a chorfforaethol i sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel. Rydym yn cyfyngu ar fynediad i wybodaeth ar sail angen gwybod, ac yn cymryd camau priodol i sicrhau bod ein staff yn ymwybodol bod gwybodaeth o'r fath yn cael ei defnyddio yn unol â'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn unig.

Rydym yn cynnal adolygiadau rheolaidd o bwy sy’n gallu cyrchu’r wybodaeth a gedwir gennym, i sicrhau mai dim ond staff, gwirfoddolwyr a chontractwyr sydd wedi'u hyfforddi'n briodol sy'n gallu cael gafael ar eich gwybodaeth.

Mae ein ffurflenni ar-lein wedi'u hamgryptio bob amser, ac mae ein rhwydwaith yn cael ei ddiogelu a'i fonitro'n rheolaidd. Mae data platfform Dysgu ar gyfer Byw yn cael eu storio mewn seilwaith lletya diogel a saff yn y DU (Equinix LD5). Mae'r system yn cydymffurfio â'r ardystiadau diogelwch a sicrwydd canlynol:

Caiff copïau wrth gefn o'r system hon eu storio gydag Amazon S3 yn eu canolfannau data yn Iwerddon. Mae'r ddwy ganolfan yn cydymffurfio'n llawn â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.

Am ba mor hir fyddwn ni’n cadw eich gwybodaeth?

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol cyhyd ag y bo'n angenrheidiol at y dibenion y'i casglwyd, gan ystyried y canllawiau a gyhoeddwyd gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Os byddwch yn gofyn i ni roi'r gorau i brosesu eich gwybodaeth bersonol at ddiben marchnata, mewn rhai achosion, byddwn yn gorfod ychwanegu eich manylion at ffeil atal (suppression file?) er mwyn i ni allu cydymffurfio â'ch cais i beidio â chysylltu â chi.

Trosglwyddo gwybodaeth yn rhyngwladol

O dro i dro, efallai y byddwn yn penderfynu defnyddio gwasanaethau cyflenwr y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE), sy'n golygu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei throsglwyddo, ei phrosesu a'i storio y tu allan i'r AEE. Dylech fod yn ymwybodol, yn gyffredinol, nad yw diogelwch cyfreithiol o ran gwybodaeth bersonol mewn gwledydd y tu allan i'r AEE o bosibl yn cyfateb i lefel y diogelwch a ddarperir yn yr AEE.

Fodd bynnag, rydym yn cymryd camau i roi mesurau diogelwch priodol ar waith i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol pan gaiff ei phrosesu gan y cyflenwr, fel ymrwymo i’r cymalau contractiol safonol a gymeradwywyd gan y Comisiwn Ewropeaidd. Drwy gyflwyno eich gwybodaeth bersonol i ni, rydych yn cytuno i'r trosglwyddiad hwn, ac i storio neu brosesu gwybodaeth mewn lleoliad y tu allan i'r AEE.

Eich hawliau i’ch gwybodaeth bersonol

Yn unol â deddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i ofyn am gael mynediad at wybodaeth bersonol amdanoch a brosesir gan Carers UK, ac i gywiro unrhyw gamgymeriadau.

Mae gennych yr hawl hefyd i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol, i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol, neu wrthwynebu i ni brosesu eich gwybodaeth bersonol.

Os ydych chi’n dymuno bwrw ymlaen â’r hawliau hyn, ysgrifennwch atom ac anfon copïau o ddwy ddogfen adnabod ar wahân sy'n cynnwys llun adnabod ac sy’n cadarnhau eich cyfeiriad, fel pasbort, trwydded yrru, neu fil cyfleustodau.

Dylech ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol hefyd sy'n berthnasol i natur eich cyswllt â ni, gan y bydd hyn yn ein helpu i ddod o hyd i'ch cofnodion.

Gallwch anfon y dogfennau atom drwy'r post i: Cynghorydd Diogelu Data Carers UK 20 Great Dover Street Llundain SE1 4LX

Neu, gallwch anfon copi o'r ffurflen gyda sganiau neu luniau o'ch dau fath o ddogfen adnabod drwy e-bost i: [email protected]

Byddwn yn ymateb o fewn 30 diwrnod ar ôl derbyn eich cais ysgrifenedig a chopïau o'ch dogfennau adnabod.

Sut i wneud cwyn neu godi pryder

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y polisi hwn, i wneud cwyn ffurfiol ynglŷn â’n hymagwedd at ddiogelu data, neu i godi pryderon ynghylch preifatrwydd, cysylltwch drwy’r ffyrdd canlynol:

E-bost: [email protected]
Ffôn: 020 7378 4945
Post: Carers UK
20 Great Dover Street
Llundain SE1 4LX

Os hoffech wneud cwyn mewn perthynas â sut rydym wedi delio â'ch gwybodaeth bersonol, dilynwch ein gweithdrefn gwyno. Os nad ydych yn hapus gyda'r ymateb y byddwch yn ei dderbyn, gallwch anfon eich pryder ymlaen at y corff statudol perthnasol:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF

Neu gallwch fynd i’w gwefan.

Rydym wedi cofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel Rheolydd Data o dan rif Z7307775.

Newidiadau i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Efallai y bydd ein Hysbysiad Preifatrwydd yn newid o dro i dro, felly edrychwch ar y dudalen hon bob hyn a hyn, i weld a ydym wedi cynnwys unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau, a'ch bod chi hapus gyda’r rhain.