Os ydych chi'n treulio llawer o amser yn gofalu am berson arall, mae’n gallu teimlo weithiau fel eich bod chi'n colli trac ar eich cynllun eich hun mewn bywyd. Mae Dysgu ar gyfer Byw wedi’i gynllunio i'ch helpu i adnabod y sgiliau rydych chi’n eu hennill drwy ofalu, i'ch helpu i gymhwyso'r sgiliau hynny mewn amgylcheddau perthnasol fel gwaith â thâl neu wirfoddoli.